Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

 

 

 

Dyddiad:

Dydd Iau, 19 Mehefin 2014

 

 

 

Amser:

09.00 - 12.35

 

 

 

Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: http://www.senedd.tv/archiveplayer.jsf?v=cy_300000_19_06_2014&t=0&l=cy

 



 

 

Cofnodion Cryno:

 

 

 

Aelodau’r Cynulliad:

 

Christine Chapman AC (Cadeirydd)

Leighton Andrews AC

Peter Black AC

Jocelyn Davies AC

Janet Finch-Saunders AC

Mark Isherwood AC

Gwyn R Price AC

Jenny Rathbone AC

Rhodri Glyn Thomas AC

 

 

 

 

 

Tystion:

 

Carl Sargeant AC, Gweinidog Tai ac Adfywio

Kath Palmer, Llywodraeth Cymru

John Howells, Llywodraeth Cymru

Jeff Cuthbert AC, Weinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Eleanor Marks, Llywodraeth Cymru

Kate Cassidy, Llywodraeth Cymru

 

 

 

 

 

Staff y Pwyllgor:

 

Sarah Beasley (Clerc)

Chloe Davies (Dirprwy Glerc)

Matthew Richards (Cynghorydd Cyfreithiol)

Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol)

Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol)

Hannah Johnson (Ymchwilydd)

Jonathan Baxter (Ymchwilydd)

 

 

 

<AI1>

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.

</AI1>

<AI2>

1    Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

1.1.      Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

1.2.      Cafwyd ymddiheuriadau gan Mike Hedges AC. Dirprwyodd Mick Antoniw AC ar ei ran.

 

 

</AI2>

<AI3>

2    Sesiwn graffu gyffredinol: Y Gweinidog Tai ac Adfywio

2.1. Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Carl Sargeant AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio, a’i swyddogion.

 

2.2. Yn ystod y sesiwn, cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r wybodaeth a ganlyn i’r Pwyllgor:

eglurhad o’r diffiniad technegol o ‘dai fforddiadwy’, fel y cyfeirir atynt mewn perthynas â thargedau, a nodyn ar y gwahaniaethau rhwng defnydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o’r term "fforddiadwy";

nodyn yn cynnwys dadansoddiad o statws pob awdurdod lleol mewn perthynas â’u dyddiadau targed o ran cwblhau Safon Ansawdd Tai Cymru, gan gynnwys manylion am unrhyw awdurdod na fydd, o bosibl, yn cyrraedd y targed;

dadansoddiad manwl o’r ffigurau ar gyfer y cynllun rhannu ecwiti ‘Cymorth i Brynu’ ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru;

nodyn ar y cynlluniau busnes a’r prosiectau o fewn portffolio’r Gweinidog sy’n ymwneud â’r gronfa gofal canolraddol a’r canlyniadau a ddisgwylir;

manylion am adolygiad Adran 180 o’r Rhaglen Grantiau Digartrefedd, pan fo’r rhain ar gael;

canlyniad y newidiadau i’r rhaglen ‘cefnogi pobl’, yn dilyn y toriad o £5 miliwn a godwyd wrth graffu ar y gyllideb ar gyfer 2014/15 fis Tachwedd y llynedd.

 

 

</AI3>

<AI4>

3    Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: eitemau 4, 5 a 6

3.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

 

</AI4>

<AI5>

4    Masnachu pobl: trafod llythyr drafft at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

4.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y llythyr drafft at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth mewn perthynas â Masnachu Pobl.

 

 

</AI5>

<AI6>

5    Trafod gohebiaeth gan y Pwyllgor Busnes

5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y llythyr gan y Pwyllgor Busnes.

 

 

</AI6>

<AI7>

6    Ystyriaeth o ohebiaeth gan Darren Millar AC mewn perthynas â'r Bil Safleoedd Carafanau Gwyliau (Cymru)

6.1. Bu’r Pwyllgor yn trafod yr ohebiaeth gan Darren Millar AC mewn perthynas â’r Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru).

 

 

 

</AI7>

<AI8>

7    Sesiwn graffu gyffredinol: Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

7.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jeff Cuthbert AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, a’i swyddogion.

 

7.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r wybodaeth a ganlyn i’r Pwyllgor:

manylion am y canllawiau a roddir i awdurdodau lleol fel rhan o’u gwaith craffu ar y sawl sy’n cael grantiau Cymunedau’n Gyntaf;

manylion am unrhyw gynnydd yn ffigurau aelodaeth Undebau Credyd ar ôl ymgyrch farchnata Llywodraeth Cymru.

 

 

 

</AI8>

<AI9>

8    Papurau i’w nodi

8.1 Nododd y Pwyllgor y papur.

 

 

</AI9>

<AI10>

9    Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

9.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

 

</AI10>

<AI11>

10        Sesiwn graffu gyffredinol: Y Gweinidog Tai ac Adfywio - trafod y dystiolaeth

10.1. Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Tai ac Adfywio ar y pwyntiau a godwyd.

 

 

 

</AI11>

<AI12>

11        Sesiwn graffu gyffredinol: Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi - trafod y dystiolaeth

11.1. Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi ar y pwyntiau a godwyd.

 

 

 

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>